Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Mai 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(65)v2

 

<AI1>

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud) 

 

NDM4985 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-12 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

 

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.

 

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

</AI3>

<AI4>

4. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (60 munud) 

 

NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

 

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

</AI4>

<AI5>

5. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Asbestos (Adennill Costau meddygol) (Mick Antoniw) (60 munud) 

 

NDM4955 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

 

Yn cytuno y caiff Mick Antoniw gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ddydd Gwener 16 Mawrth o dan Reol Sefydlog 26.90.

 

Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_040.htm

</AI5>

<AI6>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;

 

2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;

 

b) gwella tryloywder ei pholisïau; ac

 

c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad yw gweithredu’r cynllun Glastir wedi adlewyrchu pryderon y sector coedwigaeth yn ddigonol.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<AI8>

7. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM4987 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Tîm Prydain Fawr: Cyfle Euraid.

 

Â’r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ar yr ynysoedd hyn dros yr haf, mae’r ddadl fer hon yn ceisio cyflwyno’r ddadl chwaraeon, economaidd a diwylliannol o blaid caniatáu i bêl-droedwyr o Gymru gael bod yn rhan o Garfan Bêl-droed Tîm Prydain Fawr am y tro hwn yn unig.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 22 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>